WOW @ Aberystwyth 2015

24
August Winds

description

WOW Film Festival Program at Aberystwyth Arts Centre / Rhaglen WOW yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Transcript of WOW @ Aberystwyth 2015

Page 1: WOW @ Aberystwyth 2015

August Winds

Page 2: WOW @ Aberystwyth 2015

Welcome to WOW 2015WOW Film Festival returns to Aberystwythfrom Friday 20 to Thursday 26 March withour usual intriguing, eclectic selection of worldcinema for you to enjoy.

We’ll be celebrating Nowruz, (Iranian New Year)on Saturday 21 March with a season of the bestof Iranian cinema from the last thirty years. Thefilms of this generation of Iranian filmmakerswon prizes at festivals across the world whilegiving us an insight into an ancient culture verydifferent from our own at a time ofrevolutionary change.

As ever WOW will be covering the globe fromArgentina to Timbuktu, which is the title of oneof the most beautiful films we’ll be showing.It’s a multi-layered, insightful view of the impactof militant Islam on traditional life in that fabledAfrican oasis. So come along and travel theworld with WOW from the comfort of thefestival’s friendliest cinema.

Croeso i WOW 2015Bydd Gŵyl Ffilm WOW yn dychwelyd iAberystwyth ar ddydd Gwener 20 hyd atDdydd Iau 26 Mawrth gyda’n detholiad arferolo ffilmiau sinema byd diddorol ac eclectig i chieu mwynhau.

Byddwn yn dathlu Nowruz, (Blwyddyn NewyddIran) ar ddydd Sadwrn 21 Mawrth gyda thymor o’rgoreuon ymhlith sinema Iran o’r trideg mlynedddiwethaf. Gwnaeth ffilmiau’r genhedlaeth hon owneuthurwyr ffilm o Iran ennill gwobrau yngngwyliau ar draws y byd wrth roi mewnwelediad ini ar ddiwylliant hynafol sy’n wahanol iawn o’ndiwylliant ni ar adeg o newidiadau chwyldroadol.

Fel arfer bydd WOW yn rhychwantu’r byd o’rAriannin i Timbuktu, sy’n deitl ar un o’r ffilmiaumwyaf prydferth byddwn yn ei dangos. Mae’n olwg amlhaenog, mewnweledol ar effaithIslam filwriaethus ar fywyd traddodiadol yn ywerddon chwedlonol honno yn Affrica. Felly dewch i deithio’r byd gyda WOW o gysursinema fwyaf cyfeillgar yr ŵyl.

David GillamWales One World Film Festival DirectorCyfarwyddwr Gŵyl Ffilmiau Cymru a’r Byd yn Un

> Book online / Archebwch ar-lein : www.aberystwythartscentre.co.uk/whats-on/film

Twitter: @WOWFilmFacebook: www.facebook.com/WOWfilmfest

www.wowfilmfestival.com

Iranian Season TicketSee 5 great Iranian films for£20 (£15), including:

Tocyn Tymor IranGwyliwch 5 ffilm anhygoel o Iran am£20 (£15), yn cynnwys:

Where is My Friend's Home?, Hamoun, Under the Skin of the City, The Apple, Fish and Cat

Page 3: WOW @ Aberystwyth 2015

> Canolfan y Celfyddydau 01970 62 32 32 Aberystwyth Arts Centre

Difret (12a)

Cyfarwyddwr / Director: Zeresenay Berhane MehariYn serennu / Starring: Meron Getnet, Tizita HagereEthiopia/Yr Unol Daleithiau, 2014, 1 awr 39 munud, gydag isdeitlau Ethiopia/USA, 2014, 1 hour 39 minutes, subtitles

Based on a true story, this riveting tale revealsEthiopia’s cultural complexity, where traditionalcustoms are pitted against modern ideas ofequality. In the beautiful rural Ethiopianlandscape, Hirut, a bright 14-year-old girl, is onher way home from school when men onhorseback swoop down and kidnap her. Amongthe farming villages here, abduction into marriageis a common tribal tradition. When Hirut tries toescape, she shoots her would-be husband and ischarged with murder. Meaza Ashenafi, atenacious young lawyer who specialises inwomen's legal aid, arrives from Addis Ababa todefend Hirut. Boldly taking on the entrenchedmale power of ancient tradition and the modernstate, Meaza risks all she’s ever worked for to saveHirut's life.

Wedi ei seilio ar stori wir, mae’r hanes gafaelgarhwn yn amlygu cymhlethdod diwylliannolEthiopia lle mae arferion traddodiadol yn cystadluyn erbyn syniadau modern am gydraddoldeb. Yngnghefn gwlad hardd Ethiopia, mae Hirut, merchglyfar 14 oed, ar ei ffordd i’r ysgol pan mae dynionar gefn ceffyl yn ei herwgipio. Ymhlith y pentrefiffermio yma, mae herwgipio i briodi yndraddodiad llwythol cyffredin. Pan mae Hirut ynceisio dianc, mae’n saethu ei darpar ŵr ac yn caelei chyhuddo o’i lofruddio. Mae Meaza Ashenafi,cyfreithwraig ifanc benderfynol sy’n arbenigomewn darparu cymorth cyfreithiol i ferched yncyrraedd o Addis Ababa i amddiffyn Hirut. Ganwynebu’n herfeiddiol nerth gwrywaiddgwreiddiedig traddodiad hynafol a’r wladwriaethfodern, mae Meaza yn peryglu popeth bu’ngweithio amdano erioed i achub bywyd Hirut.

Nos Wener 20 5.45yh / Friday 20 5.45pm

Winner Sundance Film Festival 2014 Best World Cinema Film AwardEnillydd Gwobr Sinema Byd Gorau Gŵyl Ffilm Sundance 2014

“delicate yet impassioned story that offers empowerment and hope to countless women all over the world." London Film Festival

Wales premierePremiere Cymru

Page 4: WOW @ Aberystwyth 2015

> Book online / Archebwch ar-lein : www.aberystwythartscentre.co.uk/whats-on/film

Margarita, with a Straw (15)

Cyfarwyddwr / Director: Shonali BoseYn Serennu / Starring: Kalki Koechlin, Revathy, Sayani Gupta, William MoseleyIndia, 2014, 1 awr 40 munud, gydag isdeitlau India, 2014, 1 hour 40 minutes, subtitles

A rebellious young woman with cerebral palsy,Laila leaves her home in Delhi to study in NewYork, unexpectedly falls in love, and embarks onan exhilarating journey of self-discovery. Based ona true story this funky, stereotype-busting,coming-of-age tale is a real joy thanks to KalkiKoechlin’s delightful central performance. Thisbeautifully depicts Laila’s close relationship withher hugely supportive mother, her engaging senseof humour, and her refusal to let her disabilityprevent her from taking control of her life.

Mae Laila, menyw ifanc wrthryfelgar gyda pharlysyr ymennydd, yn gadael ei chartref yn Nelhi iastudio yn Efrog Newydd, yn syrthio mewn cariadyn annisgwyl, ac yn cychwyn ar siwrnai gyffrous ohunan-ddarganfyddiad. Mae’r stori dod i oed honsy’n chwalu’r ystrydebau ac sydd wedi ei seilio arhanes gwir, yn rhagori gan ddiolch i berfformiadcanolog hyfryd Kalki Koechlin. Mae’n portreadu’ngelfydd y berthynas agos rhwng Laila a’i mamgefnogol iawn, ei synnwyr digrifwch deniadol, a’igwrthodiad i adael i’w hanabledd rheoli ei bywyd.

Nos Wener 20 8.15yh / Friday 20 8.15pm

Winner Netpac Award Toronto International Film Festival 2014Enillydd Gwobr Netpac Gŵyl Ffilm Ryngwladol Award Toronto 2014

Margarita cocktails available at the bar, Indian food available in the café.Coctel Margarita ar gael wrth y bar, bwyd Indiaidd ar gael yn y caffi.

"intriguing and enjoyable” Screen International

Wales premierePremiere Cymru

Page 5: WOW @ Aberystwyth 2015

> Canolfan y Celfyddydau 01970 62 32 32 Aberystwyth Arts Centre

DiwrnodFfilm Iran

Where is My Friend's Home

IranianFilm DaySaturday 21 March

Special Offer£20 (£15) for 5 films from Iran:

Where is My Friend's Home?,Hamoun, Under the Skin of the City(Saturday 21), The Apple (Wednesday25) and Fish and Cat (Thursday 26)

Hamoun

The Iran season starts with a day offilms and Persian food to celebrate‘Nowruz’, Persian New Year, onSaturday 21 March. Deeply rooted inZoroastrian traditions, Nowruz,meaning "New Day”, has beencelebrated for at least 3,000 years tomark the start of Spring.

Persian Food available in Café

Dydd Sadwrn 21 Mawrth

Cynnig Arbennig£20 (£15) am 5 ffilm o Iran:

Where is My Friend's Home?, Hamoun,Under the Skin of the City (DyddSadwrn 21), The Apple (Dydd Mercher25) and Fish and Cat (Nos Iau 26)

Dechreua’r tymor gyda diwrnod offilmiau a bwyd Persia i ddathlu ‘Nowruz’,Blwyddyn Newydd Persia, ar ddyddSadwrn 21 Mawrth. Wedi ei wreiddio’nddwfn yn nhraddodiadau Zoroastrian,mae Nowruz, yn golygu “DiwrnodNewydd” ac mae wedi ei ddathlu am oleiaf 3,000 o flynyddoedd i ddynodidechrau’r Gwanwyn.

Bwyd Persia ar gael yn y Caffi

Page 6: WOW @ Aberystwyth 2015

The Golden Age ofIranian Cinema

We've a special focus on Iran this year,in a season of magical, moving filmsfrom a generation of post-revolutionary Iranian filmmakers whowon prizes at festivals across theworld. While revealing social changesin Iran to Western audiences, thesefilms are visually striking, rich insymbolism and full of wonder. Thehugely influential Iranian neorealiststyle that emerged has since had anenduring legacy world wide.

Oes Euraidd Sinema Iran

Eleni bydd gennym ffocws arbennig arIran, mewn tymor o ffilmiau hudol,trawiadol o genhedlaeth o wneuthurwyrffilm ôl-chwyldroadol o Iran sydd wediennill gwobrau yng ngwyliau ar draws ybyd. Wrth amlygu newidiadaucymdeithasol yn Iran i gynulleidfaoedd yGorllewin, mae’r ffilmiau hyn yn weledoldrawiadol, yn gyfoethog o ransymbolaeth ac yn llawn rhyfeddod.Mae’r arddull neo-realaeth hynodddylanwadol o Iran sydd wedi deilliobellach, wedi gadael ôl parhaol ar y byd.

> Book online / Archebwch ar-lein : www.aberystwythartscentre.co.uk/whats-on/film

Under the Skin of the City Fish and Cat

In partnership with British Council Iran as part of their UK-Iran Season of Culture Mewn partneriaeth â Chyngor Prydeinig Iran fel rhan o’i Dymor Diwylliant Prydain-Iran.

Page 7: WOW @ Aberystwyth 2015

> Canolfan y Celfyddydau 01970 62 32 32 Aberystwyth Arts Centre

Where Is my Friend's Home? (u)

Cyfarwyddwr / Director: Abbas KiarostamiYn serennu / Starring: Babel Ahmed Poor, Ahmed Ahmed Poor, Kheda Barech DefaiIran, 1987, 1 awr 23 munud, gydag isdeitlau Iran, 1987, 1 hour 23 minutes, subtitles

This launched Kiarostami onto the world stage,heralded the arrival of Iranian neo-realism, andset the prototype for Iranian "kid quest" movies.Nominally the story of a young boy who mustreturn his friend's notebook he took by mistake,lest his friend be punished by expulsion fromschool. On one level this reveals a society rootedin authoritarian demands, but on another thisreminds us how kids can be easily damaged bythe responsibilities of the grown-up world. Thisdeceptively simple gem has the rigour andhaunting resonance of Kiarostami’s best work.

Gwnaeth y ffilm hon lansio Kiarostami ar lwyfan ybyd, cyhoeddi dyfodiad neo-realaidd Iranaidd, agosod prototeip ar gyfer ffilmiau “cwest plant”Iranaidd. Stori deimladwy am fachgen ifanc sy’ngorfod dychwelyd llyfr nodiadau ei gyfaill agymerodd mewn camgymeriad, fel nad yw eigyfaill yn cael ei gosbi trwy gael ei wahardd o’rysgol. Ar un lefel mae hyn yn datgelu cymdeithasa’i gwreiddiau mewn galwadau awdurdodaidd,ond ar lefel arall mae hefyd yn ein hatgoffa y gallplant cael eu niweidio’n rhwydd gan gyfrifoldebaubyd oedolion. Mae gan y ffilm dwyllodrus o symlhon lymder ac atsain gwaith gorau Kiarostami.

Dydd Sadwrn 21 11.30yb / Saturday 21 11.30am

Winner of three prizes at Locarno International Film Festival 1989Enillydd tair Gwobr yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Locarno 1989

"the simplest and most moving of his films.” Combustible Celluloid

Iran SeasonTymor Iran

Page 8: WOW @ Aberystwyth 2015

> Book online / Archebwch ar-lein : www.aberystwythartscentre.co.uk/whats-on/film

Hamoun (15)

Cyfarwyddwr / Director: Dariush MehrjuiYn serennu / Starring: Ezzatolah Entezami, Bita Farahi, Khosro ShakibaiIran, 1990, 1 awr 23 munud, gydag isdeitlauIran, 1990, 1 hour 23 minutes, subtitles

A fascinating portrait of the cultural crisis faced bya middle-class couple trying to lead moreWesternised lives, while still adhering totraditional Iranian customs and values. Hamoun,a frustrated middle-aged executive, dreams ofbecoming a writer. While he has no choice but toobey the strict laws of his conservative society hefeels that he doesn't fit in. Disillusioned, decadentHamoun vents his frustrations upon his wife,Mashid, a successful painter. Tired of beingbullied, when she tries to get a divorce Hamoun isdevastated. With its nervous energy and surreal,absurdist dream sequences this mixes Manhattanand La Dolce Vita through a wholly Iranian lens.

Portread diddorol o’r cyfyng-gyngor diwylliannolsy’n wynebu pâr canol oed sy’n ceisio arwainbywydau mwy gorllewinaidd wrth geisio glynu atarferion a gwerthoedd Iranaidd traddodiadol.Mae Hamoun, gweithredwr canol oedrhwystredig, yn breuddwydio am fod ynysgrifennwr. Er nad oes ganddo unrhyw ddewisond i ufuddhau cyfreithiau llym ei gymdeithasgeidwadol mae’n teimlo nad yw’n ffitio mewn.Wedi ei ddadrithio, mae Hamoun blin yn anelu eirwystredigaeth tuag at ei wraig, Mashid, arlunyddllwyddiannus. Wedi cael llond bol ar gael ei bwlio,mae’n ceisio ysgaru, ond mae Hamoun yndorcalonnus. Gyda’i egni nerfus a dilyniannaubreuddwyd swreal, absẃrd mae’r ffilm hon yncymysgu Manhattan a La Dolce Vita trwy lensIranaidd unigryw.

Dydd Sadwrn 21 2.15yp / Saturday 21 2.15pm

“Well-wrought, beautifully-acted film” L.A.Times

Winner of 5 Awards including Best Director Fajr Film Festival 1990Enillydd 5 Gwobr gan gynnwys Cyfarwyddwr Gorau Gŵyl Ffilm Fajr 1990

Iran SeasonTymor Iran

Page 9: WOW @ Aberystwyth 2015

> Canolfan y Celfyddydau 01970 62 32 32 Aberystwyth Arts Centre

Under The Skin of The City (15)

Cyfarwyddwr / Director: Rakhshan Bani-EtemadYn serennu / Starring: Golab Adineh, Mohammad Reza Forutan, Baran KosariIran, 2001, 1 awr 32 munud, gydag isdeitlauIran, 2001, 1 hour 32 minutes, subtitles

A mother’s lot is not a happy one in a societywhere men make all the decisions and womenhave to suffer the consequences. After hergruelling daily grind in the Tehran textile factory,Tuba comes home to an invalid husband; apregnant daughter whose husband beats herregularly; a teenage son, who's been getting intotrouble due to his radical politics; and an olderson who wants to fix all her problems by going towork in Japan. Tuba soldiers on trying to keep herfamily together despite her mounting troubles.The first lady of Iranian cinema evocativelycaptures the human struggle at the heart of afamily in this absolutely authentic, strikingly madeportrait of women’s lives.

Nid yw bywyd mam yn un bodlon mewncymdeithas lle mae dynion sy’n gwneud yr hollreolau a rhaid i fenywod ddioddef y canlyniadau.Ar ôl ei diwrnod llafurus yn y ffatri tecstilau ynNheran daw Tuba adref i’w gŵr methedig, eimerch feichiog sy’n cael ei churo’n rheolaidd ganei gŵr, mab yn ei arddegau sydd wedi bod ynmynd i helynt oherwydd ei wleidyddiaeth radical;a mab hŷn sydd am ddatrys ei holl broblemaudrwy fynd i weithio yn Siapan. Mae Tuba’n bwrwati i geisio cadw ei theulu ynghyd er gwaethaf eiphroblemau cynyddol. Mae arweinyddbenywaidd sinema yn Iran yn cipio’n atgofus yfrwydr ddynol wrth wraidd teulu yn y portreadgwreiddiol, trawiadol hwn o fywydau merched.

Dydd Sadwrn 21 5.30yp / Saturday 21 5.30pm

Winner Netpac Award Karlovy Vary International Film Festival 2001Enillydd Gwobr Netpac Gŵyl Ffilm Ryngwladol Karlovy Vary 2001

"an involving, beautifully cast film that portrays contemporary Iranian issues in a remarkably universal light.” Hollywood Reporter

Iran SeasonTymor Iran

Page 10: WOW @ Aberystwyth 2015

> Book online / Archebwch ar-lein : www.aberystwythartscentre.co.uk/whats-on/film

Timbuktu (15)

Cyfarwyddwr / Director: Abderrahmane SissakoYn serennu / Starring: Ibrahim Ahmed, Toulou Kik, Abel Jafri, Fatoumata DiawaraMauritania/Ffrainc, 2014, 1 awr 37 munud, gydag isdeitlau Mauritania/France, 2014, 1 hour 37 minutes, subtitles

A lucid portrait of the impact of foreign jihadis onlife in Timbuktu as they hypocritically enforceSharia law – no music, no football, no smoking,suitable dress. Beautifully filmed against thebackdrop of sandy streets, stark desertlandscapes and the sparkling river, this weavestogether the stories of the residents as theyadjust to living with oppression as best they can.There’s a traditional Toureg herder livingpeacefully in the dunes on the edge of town, aMuslim who plays desert blues. A liberal Imamintercedes for a black woman and berates thegunmen for disturbing the peace of his mosque.Sissako (Bamako, Waiting for Happiness) has acaustic sense of the absurd, making this subtleclash of cultures both funny and petrifying, whilecreating a powerful feel of fate inevitably playingitself out.

Portread eglur o effaith jihadwyr tramor ar fywydyn Nhimbuktu, wrth iddynt orfodi cyfraith Shariamewn modd rhagrithiol - dim cerddoriaeth, dimpêl-droed, dim ysmygu, gwisg addas. Wedi eiffilmio’n gelfydd yn erbyn cefndir o strydoeddtywodlyd, tirluniau anialwch llwm a’r afonddisglair, mae’r ffilm hon yn gwau ynghyd straeony trigolion wrth iddynt addasu i fywyd gydagormes yn y ffordd orau y gallant. Mae ‘na fugailToureg traddodiadol sy’n byw yn heddychlon yn ytwyni ar gyrion y dref, Mwslim sy’n chwarae bluesyr anialwch. Mae Imam rhyddfrydol yn cyfrynguar ran menyw du ac yn dweud y drefn wrth ysaethwyr am darfu ar yr heddwch yn ei fosg. Mae synnwyr llem Sissako (Bamako, Waiting forHappiness) o’r absẃrd yn peri i’r teimlad hwn oddiwylliannau’n gwrthdaro fod yn ddifyr ac ynfrawychus, wrth greu teimlad o ffawd yn chwaraeei ran anochel.

Nos Sadwrn 21 8.00yh / Saturday 21 8.00pm

“passionate and visually beautiful . . Timbuktu is a cry from the heart" Peter Bradshaw, The GuardianWinner of two Awards at Cannes Film Festival 2014Enillydd dwy Wobr yng Ngŵyl Ffilm Cannes 2014

Wales premierePremiere Cymru

Page 11: WOW @ Aberystwyth 2015

> Canolfan y Celfyddydau 01970 62 32 32 Aberystwyth Arts Centre

My Name Is Salt (pg)

Cyfarwyddwr / Director: Farida PachaYn serennu / Starring: Sanabhai, Devuben and their family from the Little Rann of KutchSwitzerland/India, 2013, 1 hour 32 minutes, subtitlesY Swistir/India, 2013, 1 awr 32 munud, isdeitlau

This exquisite, lyrical, immersive documentarycreates a strikingly beautiful portrait of anextraordinary vanishing world. Every yearthousands of families travel to a bleak desert inGujarat where they extract the whitest salt in theworld using the same painstaking manualtechniques as generations before them. Wespend a season with one of these familiesobserving the very particular rhythms of theirlives as they work on the salt marshes. We get toknow the sounds and rhythms of their labour,witnessing their ingenuity and persistence as theyundertake their Sisyphean task. When themonsoon rains come, the sea rises once moreand no trace of their work remains.

Mae’r ffilm ddogfen gain, ymdrochol, delynegolhon yn creu portread arbennig o brydferth o fydrhyfeddol sy’n diflannu. Pob blwyddyn maemiloedd o deuluoedd yn teithio i anialwch llwmyn Gujarat lle byddant yn echdynnu’r halengwynaf yn y byd gan ddefnyddio’r un technegaullaw llafurus a wnaeth cenhedloedd o’u blaenau.Treuliwn dymor gydag un o’r teuluoedd hyn ynarsylwi rhythmau penodol iawn eu bywydau wrthiddynt weithio ar y corsydd halen.Ymgyfarwyddwn â seiniau a rhythmau eu llafur,gan dystio i’w dyfeisgarwch a’i dyfalbarhad wrthiddynt ymgymryd â’u tasg ddiddiwedd. Pan ddawglaw’r monsŵn mae’r môr yn codi unwaith eto acni fydd unrhyw olrhain o’u gwaith yn parhau.

Dydd Sul 22 2.30yp / Sunday 22 2.30pm

Winner of the Best Documentary prize at Edinburgh International Film Festival 2014 Enillydd Gwobr y Ffilm Ddogfen Orau yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin 2014

"A lyrical celebration of human endeavour”Eye for Film

Page 12: WOW @ Aberystwyth 2015

The Tribe (15)

Cyfarwyddwr / Director: Myroslav SlaboshpytskiyYn serennu / Starring: Grigoriy Fesenko, Yana NovikovaYr Wcrain, 2014, 2 awr 15 munud Ukraine, 2014, 2 hours 15 minutes

Conducted entirely in sign language with nosubtitles, voice over explanation, or music, this isfilmmaking stripped to the bone that, like Becketor Peter Brook, reveals the universal language ofsocial control. When new student Sergey arrivesin a crumbling state boarding school for deafadolescents in Kiev, he is quickly inducted into aworld run by violent bullies. With the connivanceof the school authorities, robbery, prostitutionand crime are rife. When Sergey falls in love he’sset for an inevitable confrontation with those thatrule his world. Dazzlingly executed and hugelyoriginal, with startling use of intense sexuality andviolence, this is a powerful, audacious rethinkingof cinema’s language of sight and sound.

Wedi ei pherfformio’n gyfan gwbl mewn iaitharwyddion heb isdeitlau, trosleisio esboniadol nacherddoriaeth, dyma i chi creu ffilm wedi eiddinoethi, sydd fel Becket neu Peter Brook yndatgelu iaith fydol rheolaeth gymdeithasol. Panmae’r myfyriwr newydd Sergey yn cyrraedd ysgolbreswyl y wladwriaeth i bobl ifanc byddar yn Kievcaiff ei gyflwyno’n gyflym i fyd wedi ei redeg ganfwlis treisiol. Gydag awdurdodau’r ysgol ynymwybodol, mae lladrad, puteindra a throsedd yngyffredin. Pan mae Sergey’n syrthio mewn cariadmae’n wynebu gwrthdaro anochel gyda’r rhai sy’nrheoli ei fyd. Wedi ei cyflwyno mewn moddsyfrdanol a gwreiddiol tu hwnt, gyda defnyddbrawychus o rywioldeb a thrais dwys, mae’r ffilmhon yn ail-ystyriaeth nerthol ac eofn ar iaith gwelda chlywed y sinema.

Dydd Sul 22 5.30yp / Sunday 22 5.30pm

Winner of Critics Week Grand Prize at Cannes Film Festival 2014Enillydd Gwobr Fawr Wythnos y Beirniaid yng Ngŵyl Ffilm Cannes 2014

> Book online / Archebwch ar-lein : www.aberystwythartscentre.co.uk/whats-on/film

“What an intriguing film.” Peter Bradshaw, Guardian

Wales premierePremiere Cymru

Page 13: WOW @ Aberystwyth 2015

> Canolfan y Celfyddydau 01970 62 32 32 Aberystwyth Arts Centre

Deep Listening (Dadirri) (PG)

Cyfarwyddwr / Director: Helen IlesYn serennu / Starring: John Seed, David Holmgren, Glen OchreAwstralia 2014, 1 awr 4 munudAustralia 2014, 1 hour 4 minutes

This fascinating portrait of the people whocreated the many diverse communities that havethrived across Australia over the last 40 yearsexplores the timely Aboriginal concept of ‘DeepListening’. Beautifully made against the richdiversity of the Australian landscape by thedirector of Lammas, this explores theinterpersonal dynamics of these 'intentionalcommunities'. It reveals the importance of takingtime to truly listen to one another and of ‘listeningto the land’ if we are to learn to live sustainably.A generation that created an alternative lifestylebased on respect for the land, for the indigenouspeople and for one another, share the insightsthey have learned from a lifetime of livingtogether.

Mae’r portread diddorol hwn o’r bobl a greodd ynifer o gymunedau amrywiol sydd wedi ffynnu ardraws Awstralia yn ystod y 40 mlynedd diwethafyn archwilio cysyniad amserol BrodorionAwstralia sef ‘Gwrando’n Ddwfn’. Wedi ei chreu’ngelfydd yn erbyn amrywiaeth cyfoethog tirweddAwstralia gan gyfarwyddwr Lammas, mae’narchwilio dynamig rhyngbersonol y ‘cymunedaubwriadol’ hyn. Mae’n datgelu pwysigrwyddcymryd amser i wrando’n iawn ar ein gilydd osbwriadwn fyw ynghyd mewn harmoni. Maecenhedlaeth a greodd ffordd o fyw amgen ynseiliedig ar barch tuag at y tir, tuag at y brodorioncynhenid a thuag at ei gilydd, yn rhannu’rprofiadau maent wedi eu crynhoi wrth gyd-fywam oes.

Nos Lun 23 5.45yh / Monday 23 5.45pm

Skype Q&A with director Helen IlesSesiwn Holi ac Ateb Skype gyda'r cyfarwyddwr Helen lles

In partnership with / mewn partneriaeth â

UK premierePremiere Prydain

Page 14: WOW @ Aberystwyth 2015

> Book online / Archebwch ar-lein : www.aberystwythartscentre.co.uk/whats-on/film

Dukhtar/Daughter (12A)

Cyfarwyddwr / Director: Afia NathanielYn serennu / Starring: Samiya Mumtaz, Mohib Mirza, Saleha ArefPacistan/Yr Unol Daleithiau/Norwy, 2014, 1 awr 33 munud, gydag isdeitlauPakistan/USA/Norway, 2014, 1 hour 33 minutes, subtitles

This gripping road movie both explores thedisturbing plight of child brides and subtly unveilsthe connected struggles of generations of womenshouldering adversity. Gorgeously filmed in thebeautiful high Himalaya this is the thrilling tale ofa brave mother who flees with her 10-year-olddaughter to save her from marriage to a localwarlord. On the road with murderous tribesmanon their heels a friendly truck driver reluctantlyhelps them out. Interestingly the film graduallychanges gear from a simple chase movie into asubtle exploration of mother-daughterrelationships. Fine acting, fabulous music, anunlikely heroine, and a strong plot that is deeplyentrenched in the harsh realities of life make thisthe best film to come out of Pakistan in manyyears.

Mae’r ffilm deithio afaelgar hon yn archwiliocyflwr brawychus priodferched sy’n blant, ganddatgelu’n gynnil frwydrau cysylltiedigcenedlaethau o fenywod sy’n ysgwyddo adfyd.Wedi ei ffilmio’n wych ym mynyddoedd uchelhardd yr Himalaya, dyma i chi stori gyffrous amfam ddewr sy’n ffoi gyda’i merch 10 mlwydd oeder mwyn ei hachub rhag priodas i ryfelwr lleol. Aryr heol, gyda llwythddynion llofruddiol yn euherlid, mae gyrrwr lori cyfeillgar yn eu helpu. Ynddiddorol, mae’r ffilm yn raddol newid gêr o fodyn ffilm erlid syml i archwiliad cynnil o berthynasmam a merch. Mae actio da, cerddoriaethragorol, arwres annisgwyl, a phlot cryf sydd wediymwreiddio’n ddwfn yn realiti creulon bywyd yncyfuno i sicrhau mai hon yw’r ffilm orau i ddod oBacistan ers blynyddoedd.

Nos Lun 23 8.15yh / Monday 23 8.15pm

Wales premierePremiere Cymru

Page 15: WOW @ Aberystwyth 2015

August Winds (15)

Cyfarwyddwr / Director: Gabriel MascaroYn Serennu / Starring: Dandra De Morais, Geova Manoel Dos SantosBrasil, 2014, 1 awr 17 munud, gydag isdeitlauBrazil, 2014, 1 hour 17 minutes, subtitles

Set against the stunning backdrop of a remotecoastal village in Brazil, this is an engaginglyepisodic, bewitching film that gently contemplatesthe nature of life and death. Shirley looks after herelderly grandmother, drives a tractor at the localcoconut plantation (there are striking shots ofworkers hacking down the coconuts from massivepalm trees), and hangs out with her lover Jeison. Asurprise discovery confronts them with the duelbetween the sea and the land, youth and age, lossand memory. Fabulously beautiful images of thesimple rhythms of everyday life are smartlybalanced with Mascaro’s musing on the power ofwind and sea and some genuinely amusingmoments.

Wedi ei gosod yn erbyn golygfa syfrdanol pentrefarfordirol anghysbell ym Mrasil, mae hon yn ffilmgyfnodol atyniadol, gafaelgar sy’n ystyried naturbywyd a marwolaeth. Mae Shirley yn gofalu am eimam-gu oedrannus, yn gyrru tractor ar ffermcnau coco lleol (mae ‘na olygfeydd trawiadol oweithwyr yn torri’r cnau coco o balmwyddenfawr), ac yn treulio amser gyda’i chariad Jeison.Mae darganfyddiad annisgwyl yn eu hwynebugyda gornest rhwng y môr â’r tir, ieuenctid acoedran, colled a chof. Caiff delweddau hynodhardd o rythmau syml bywyd eu cydbwyso’ngelfydd gyda myfyrio Mascaro ar nerth gwynt amôr ac ambell foment ddifyr iawn.

Nos Fawrth 24 5.45yh / Tuesday 24 5.45pm

> Canolfan y Celfyddydau 01970 62 32 32 Aberystwyth Arts Centre

“A sensual teen romance unfurls … in this haunting feature debut." London Film Festival

Winner of Special Mention Locarno International Film Festival 2014Enillydd Clod Arbennig yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Locarno 2014

Wales premierePremiere Cymru

Page 16: WOW @ Aberystwyth 2015

> Book online / Archebwch ar-lein : www.aberystwythartscentre.co.uk/whats-on/film

Charlie’s Country (15)

Cyfarwyddwr / Director: Rolf de HeerYn serennu / Starring: David Gulpilil, Peter Djigirr, Luke FordAwstralia, 2014, 1 awr 48 munudAustralia, 2014, 1 hour 48 minutes

A heartfelt, deeply passionate story about the lifeand times of legendary Australian actor DavidGulpilil (Walkabout, Ten Canoes) that makes greatuse of his extraordinarily expressive face. Full ofdiverting, blackfella humour and filled with angerat the way Indigenous Australians have beentreated for generations, this is a powerful,poignant window on Aboriginal culture. Living onthe edge of a rundown Aboriginal community, andincreasingly stifled by white laws, Charlie decidesto return to life according to the old ways. Gulpililgives a haunting performance as an ageingAborigine trying to fight back against a system ofprejudice and neglect.

Stori deimladwy, angerddol iawn am fywyd ac oesyr actor enwog o Awstralia, David Gulpilil(Walkabout, Ten Canoes) sy’n gwneud defnyddgwych o’i wyneb hynod fynegiannol. Yn llawnhiwmor difyrrus y ‘blackfella’ ac yn llawn dictertuag at y ffordd mae Brodorion Awstralia wedicael eu trin am genedlaethau, mae’r ffilm hon ynolwg nerthol, ingol ar ddiwylliant BrodorionAwstralia. Yn byw ar gyrion cymuned lom iFrodorion, ac yn cael ei gyfyngu’n fwyfwy ganddeddfau dynion gwyn, mae Charlie ynpenderfynu dychwelyd at fywyd sy’n seiliedig ar yrhen ffyrdd. Mae Gulpilil yn rhoi perfformiadcofiadwy fel hen Frodor yn ceisio ymladd yn ôl ynerbyn system o ragfarn ac esgeulustra.

Nos Fawrth 24 8.15yh / Tuesday 24 8.15pm

Winner Best Actor Un Certain Regard Cannes Film Festival 2014Enillydd Actor Gorau Gŵyl Ffilm Un Certain Regard Cannes 2014

"an unforgettable film, beautifully made, at times unbearably sad, but tinged withan unquenchable optimism and humanity" The Australian

Page 17: WOW @ Aberystwyth 2015

> Canolfan y Celfyddydau 01970 62 32 32 Aberystwyth Arts Centre

the apple (PG)

Cyfarwyddwr / Director: Samira MakhmalbafYn serennu / Starring: Massoumeh Naderi, Zahra Naderi, Ghorban Ali NaderiIran, 1998, 1 awr 23 munud, gydag isdeitlau Iran, 1998, 1 hour 23 minutes, subtitles

This witty, gentle but often surprisingly acerbicdocu-drama tells the real-life story of twoinnocent girls suddenly let loose on the streets ofTehran (by a pleasingly determined social worker)after being kept locked indoors for twelve years.Like so many Iranian films about children, it’s allthe more powerful because of the deceptivelysimple, non-judgmental way the tale is told. Andthe harsh, unsentimental portrait of family lifeeffectively offsets its cute charm. This engaging,compelling allegory of deliverance andredemption becomes a damning indictment ofIranian patriarchal culture.

Mae’r ddrama ddogfen hon sy’n ffraeth, yn dynerond weithiau’n chwerw yn adrodd stori wir amddwy ferch ddiniwed sy’n cael eu rhyddhau’nsydyn i strydoedd Tehran (gan weithiwrcymdeithasol penderfynol) ar ôl cael eu cadw odan glo mewn tu fewn am ddeuddeg mlynedd.Fel cymaint o ffilmiau Iranaidd am blant, mae’nfwyfwy grymus oherwydd y ffordd dwyllodrus osyml caiff ei hadrodd heb ragfarn. Ac mae’rportread llym disentiment o fywyd teuluol yncydbwyso ei swyn hyfryd mewn modd effeithiol.Mae’r alegori gafaelgar, am ryddhad acachubiaeth yn troi’n gyhuddiad melltithiol oddiwylliant patriarchaidd Iran.

Dydd Mercher 25 2.30yh / Wednesday 25 2.30pm

“Makhmalbaf's impeccable feature-film debut is a witty and precociouslyintelligent docudrama.” Sight & Sound

Enillydd Gwobr FIPRESCI Gŵyl Ffilm Ryngwladol 1998 LocarnoWinner FIPRESCI Prize Locarno International Film Festival 1998

Iran SeasonTymor Iran

Page 18: WOW @ Aberystwyth 2015

Jauja (15)Cyfarwyddwr / Director: Lisandro AlonsoYn serennu / Starring: Viggo Mortenson, Viilbjørk Mallin Agger, Ghita NørbyYr Ariannin-Yr Unol Daleithiau-Yr Iseldiroedd-Ffrainc-Mecsico-Denmarc-Yr Almaen-Brasil, 2014, 1 awr41 munud, gydag isdeitlau / Argentina-USA-Netherlands-France-Mexico-Denmark-Germany-Brazil,2014, 1 hour 41 minutes, subtitles

A fabulously beautiful western about the searchfor a utopia that remains forever out of reach, seton the spectacular coast, pampas and deserts ofPatagonia. When his 15-year-old daughterIngeborg elopes with a young soldier, thedistraught Captain Dinesen (Viggo Mortenson)embarks on an epic journey across an emptywilderness in the hope of tracking the coupledown. Mortensen excels as the quixotic Dinesenwho descends into single-minded obsession ashis quest takes him beyond the confines of theknown world. If you can sit back, relax and takethe pace his haunting journey will reward youwith a strange and magical ending quite unlikeanything you’ve seen before.

Ffilm Western hyfryd am y cwest am iwtopia syddo hyd y tu hwnt i’r gafael, wedi ei gosod ararfordir, paith ac anialwch ysblennydd Patagonia.Pan mae Ingeborg ei ferch 15 mlwydd oed yn ffoigyda milwr ifanc, mae’r Capten Dinesen trallodus(Viggo Mortenson) yn cychwyn ar siwrnai epig ardraws diffeithiwch gwag gan obeithio dod ardraws y pâr. Mae Mortensen yn rhagori felDinesen mympwyol sy’n cyrraedd pwyntobsesiwn wrth i’w gwest ei dywys y tu hwnt igyffiniau’r byd hysbys. Os allwch eistedd yn ôl,ymlacio a chyd-fynd â’r cyflymdra, bydd ei siwrnaiyn eich gwobrwyo gyda diweddglo rhyfedd ahudol sydd yn hollol wahanol i unrhyw bethfyddwch wedi ei weld o’r blaen.

Nos Fercher 25 5.45yh / Wednesday 25 5.45pm

Winner FIPRESCI prize Un Certain Regard Cannes Film Festival 2014Enillydd Gwobr FIPRESCI Gŵyl Ffilm Un Certain Regard Cannes 2014

> Book online / Archebwch ar-lein : www.aberystwythartscentre.co.uk/whats-on/film

"A marvellous experience that shows that film is a medium that can lock up ahistory (or memories or dreams or nightmares) inside it, then release it in all thesplendour of the Patagonian skies." Sight & Sound

Wales premierePremiere Cymru

Page 19: WOW @ Aberystwyth 2015

Open Bethlehem (PG)

Cyfawyddwr / Director: Leila SansourYn serennu / Starring: Leila Sansour, Marti Bell, and the people of BethlehemPalestina/Yr Emiraethau Arabaidd Unedig/Prydain/Yr Unol Daleithiau, 2013, 1 awr 30 munud, gydagisdeitlau Palestine/UAE/UK/USA, 2013, 1 hour 30 minutes, subtitles

The tragedy of the Palestinians encapsulated inthe life of one family and one town – Bethlehem.Director Sansour (Jeremy Hardy vs Israeli Army)returns to her home town on a mission to ensurethat Bethlehem stays a free and open city. Everoptimistic, she sets up a tourist project andpromotes the Bethlehem passport, a kind of firststep on which peace processes are built.Meanwhile the construction of the ‘separationwall’ slowly strangles the most famous little townin the world. As one man whose business isruined says, “Security. They’ve swallowed thewhole world with this one word.” This is apowerful, very personal film that shows the hopethat drives Leila’s campaign but also faces up tothe limits of what she can achieve.

Trasiedi'r Palesteiniaid wedi ei hymgorffori mewnbywyd un teulu ac un dref - Bethlehem. Mae’rCyfarwyddwr Sansour (Jeremy Hardy vs IsraeliArmy) yn dychwelyd i’w thref gartref argenhadaeth i sicrhau fod Bethlehem yn aros ynddinas rydd ac agored. Yn fythol optimistaiddmae’n sefydlu prosiect twristaidd ac yn hyrwyddopasbort Bethlehem yn fath o gam cyntaf y gelliradeiladu prosesau heddwch ar ei sail. Yn ycyfamser mae adeiladu’r ‘wal gwahanu’ yn arafgrogi tref fechan fwyaf enwog y byd. Yn ôl un dyny mae ei fusnes wedi ei chwalu, “Diogelwch. Maennhw wedi llyncu’r byd cyfan gyda’r un gair hwn.”Mae hon yn ffilm nerthol, bersonol iawn sy’ndangos y gobaith sy’n gyrru ymgyrch Leila ondsydd hefyd yn cydnabod cyfyngiadau’r hyn y gellirei gyflawni ganddi.

Nos Fercher 25 8.15yh / Wednesday 25 8.15pm

Leila Sansour will answer questions after the filmBydd Leila Sansour yn ateb cwestiynau yn dilyn y ffilm.

> Canolfan y Celfyddydau 01970 62 32 32 Aberystwyth Arts Centre

"a fierce, poignant film" Guardian

“One of the most remarkable and moving documentaries I have seen about thisunreported story.” John Snow

Page 20: WOW @ Aberystwyth 2015

> Book online / Archebwch ar-lein : www.aberystwythartscentre.co.uk/whats-on/film

Natural Sciences (PG)

Cyfarwyddwr / Director: Matias LucchesiYn Serennu / Starring: Paula Hertzog, Paola Barrientos, Alvin AstorgaYr Ariannin/Ffrainc, 2014, 1 awr 11 munud, gydag isdeitlau Argentina/France, 2014, 1 hour 11 minutes, subtitles

Like Bombon: El Perro this is a lovely, easy-going,slice-of-life journey round the dusty back roads ofthe deep South of Argentina. In the wilds of thePatagonian mountains, Lila, a headstrong, self-sufficient young girl, is determined to find thefather she never knew. Despite mountingdisapproval, a sympathetic teacher, the stolidMarta, decides to help the irrepressible Lila. Theyset off with their only clue, a small, rustynameplate wrenched from a pylon. With itsstraightforward direction and utterly convincingperformances, their journey through wrong turns,dead ends and mistaken identities is wryly funnyand wholly moving. A real little gem that’s boundto put a smile on your face.

Fel Bombon: El Perro mae hon yn ffilm hyfryd,hamddenol ac yn siwrnai o gwmpas ffyrddllychlyd bychain De’r Ariannin. Yng ngwylltirmynyddoedd Patagonia mae Lila, merchhunangynhaliol, benstiff yn benderfynol o ddod ohyd i’r tad nid yw erioed wedi ei adnabod. Ergwaethaf anghytundeb cynyddol, mae Marta,athrawes gydymdeimladol, ddi-sigl, ynpenderfynu helpu’r Lila ddiatal. Mae’r ddwy yncychwyn allan gyda’u hunig gliw, plât enw rhydlydwedi ei dynnu oddi ar beilon. Gyda’i chyfeiriadsyml a pherfformiadau hollol argyhoeddiadolmae eu siwrnai trwy droeon anghywir, ffyrddpengaead a chamadnabyddiaeth yn ddoniol ac ynhollol drawiadol. Dyma i chi drysor bach bydd ynsiŵr o roi gwên ar eich wyneb.

Nos Iau 26 5.45yh / Thursday 26 5.45pm

UK premierePremiere Prydain

Page 21: WOW @ Aberystwyth 2015

> Canolfan y Celfyddydau 01970 62 32 32 Aberystwyth Arts Centre

Fish and Cat (15)

Cyfarwyddwr / Director: Shahram MokriYn serennu / Starring: Babak Karimi, Saeed Ebrahimifar, Ainaz AzarhoushIran, 2013, 2 awr, 14 munud, gydag isdeitlauIran, 2013, 2 hours 14 minutes, subtitles

Told in one single stunning shot this gripping filmsucceeds in ‘unhinging’ time to create a strange,haunting feel to seemingly everyday events. Agroup of students gather by a remote lake for acamping trip and kite-flying festival. The onlyother people around are a seedy, possiblymurderous, trio of cooks who run a scuzzyrestaurant. The washed out colour scheme, theeerie sounds, the clever recurrence of certainevents to create a disconcertingsense of déjà vu, all work to produce a sustainedmood of disquiet. A truly extraordinary film thatplays with our perception of time, space, andtruth.

Wedi ei ffilmio mewn un olygfa syfrdanol mae’rffilm afaelgar hon yn llwyddo i ‘ddatgysylltu’amser a rhoi teimlad rhyfedd i ddigwyddiadausydd yn gyffredin ar yr olwg gyntaf. Mae grŵp ofyfyrwyr yn ymgynnull ger llyn anghysbell ar gyfertrip gwersylla a gŵyl hedfan barcudiaid. Yr unigbobl eraill o gwmpas yw triawd o gogyddion,llofruddion blêr o bosibl, sy’n rhedeg bwytyannymunol. Mae’r cynllun lliw simsan, y seiniauiasol, gyda rhai digwyddiadau’n ail-chwarae’ngelfydd er mwyn creu teimladwy annifyr o déjàvu, i gyd yn cyfuno i greu awyrgylch parhaus oanesmwythyd. Ffilm wir ryfeddol, sy’n chwaraegyda’n canfyddiad o amser, gofod a gwirionedd.

Nos Iau 26 8.15yh / Thursday 26 8.15pm

Winner Special Jury Award for Creativity Venice Film Festival 2013 Enillydd Gwobr Rheithgor Arbennig ar gyfer Creadigedd Gŵyl Ffilm Fenis 2013

"something truly special" Andrew Robertson, Eye for Film

Wales premierePremiere Cymru

Iran SeasonTymor Iran

Page 22: WOW @ Aberystwyth 2015

www.facebook.com/WOWfilmfestival @WOWfilm

WOW Festival in CardiganEnjoyed the WOW Festival in Aberystwyth? Come along and support

these other WOW festival events in Cardigan

Gŵyl WOW yn AberteifiWedi mwynhau Gŵyl WOW yn Aberystwyth? Dewch ynghyd i gefnogi'r

digwyddiadau Gŵyl WOW eraill yn Aberteifi

Iranian New Year CelebrationDathliad Blwyddyn Newydd IranSaturday 28 March 7.00pm Nos Sadwrn 28 Mawrth 7.00yhSmall World CentreCanolfan Byd BychanCome and enjoy a screening of Where isthe Friend’s Home? and a delicious Persianfeast prepared by Our Two Acres.Dewch i fwynhau dangosiad o ffilm fwyaftrawiadol Abbas Kiarostami’s, sef Where isMy Friend’s House? a gwledd flasus ofwyd Persia wedi ei baratoi gan Our TwoAcres.Film Tickets / Tocynnau Ffilm: £6 Food / Bwyd: £1001239 615952www.smallworld.org

DUKHTAR (DAUGHTER) (12A) Sunday 5 April 6.00pmNos Sul Ebrill 5 6.00yh

Theatr MwldanTheatr Mwldan Film Society present anextra screening of the gorgeously filmedPakistani thriller about a mother anddaughter fleeing from a trbal warlord.Wedi ei gosod yn erbyn cefndirmynyddoedd yr Himalaya, mae hon ynffilm gyffro o Bacistan sydd wedi eiffilmio’n gelfydd am fam a merch sy’n ffoirhag rhyfelwr llwythol.

01239 621200 www.mwldan.co.uk

Page 23: WOW @ Aberystwyth 2015

Book your WOWtickets now!Cinema tickets:£6.50 Adult / £6 OAP£5.50 Student and Under 18’s£5 Silver Screenings (Free Tea and Coffee)

Box Office 01970 62 32 32Open Mon – Sat 10am – 8pm / Sun 1.30 pm – 5.30pm

Online at www.aberystwythartscentre.co.uk

Aberystwyth Arts Centre Aberystwyth UniversityPenglais Hill, Aberystwyth SY23 3DE

Archebwch eichtocynnau WOW nawr!Prisiau tocynnau sinema:£6.50 Oedolion / £6 Pensiynwyr£5.50 Myfyrwyr a dan 18£5 Tocynnau ‘Silver Screenings’(Te a Choffi am ddim)

Swyddfa Docynnau 01970 62 32 32Ar agor Llun – Sad 10am – 8pm / Sul 1.30 pm – 5.30pm

Ar-lein arwww.aber.ac.uk/artscentre

Canolfan y Celfyddydau AberystwythPrifysgol Aberystwyth UniversityRhiw Penglais, Aberystwyth SY23 3DE

WOW Wales One World Film Festival is an initiative of David Gillam, Aberystwyth Arts Centre and Taliesin Arts Centre Mae Gŵyl Ffilmiau WOW Cymru a’r Byd yn Un yn fenter ar y cyd rhwng David Gillam, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a

Chanolfan Gelfyddydau Taliesin.

WOW Festival Pass £50 (£40 concessions)

Iranian Season TicketSee 5 great Iranian films for £20 (£15)

Pas Gŵyl Ffilm WOW £50 (£40 concesiynau)

Tocyn Tymor IranGwyliwch 5 ffilm anhygoel o Iran am£20 (£15)

Page 24: WOW @ Aberystwyth 2015

5.45pm Difret (12A)8.15pm Margarita, with a Straw (15)

Dydd Gwener / Friday 20 Mawrth / March

WOW Wales One World Film Festival Gŵyl Ffilmiau WOW Cymru a’r Byd yn UnDyddiadur Mis Mawrth / Diary March 2015

Iranian Film Day / Diwrnod Ffilm Iran

11.30am Where Is My Friend's Home?(U)2.15pm Hamoun (15)5.30pm Under the Skin of The City (15)8.00pm Timbuktu (15)

Dydd Sadwrn / Saturday 21

2.30pm My Name Is Salt (PG)5.30pm The Tribe (15)

Dydd Sul / Sunday 22

5.45pm Deep Listening (Dadirri) (PG)8.15pm Dukhtar/Daughter (12A)

Dydd Llun / Monday 23

5.45pm August Winds (15)8.15pm Charlie's Country (15)

Dydd Mawrth / Tuesday 24

zodshop - eco design & photography zodshopdesign.co.uk [email protected] 01239 711638

2.30pm The Apple (PG)5.45pm Jauja (15)8.15pm Open Bethlehem (PG)

Dydd Mercher / Wednesday 25

5.45pm Natural Sciences (PG)8.15pm Fish & Cat (15)

Dydd Iau / Thursday 26

August Winds

My Name is Salt

Dukhtar (Daughter)

Margarita, With a Straw